Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Grant Hanfodion Ysgol (Grant Datblygu Disgyblion yn Flaenorol)

​Mae'r Grant Hanfodion Ysgol ar gael i helpu teuluoedd ar incwm isel, gyda phlant sy'n mynychu ysgol gynradd neu uwchradd a gynhelir. 

Gallwch ddefnyddio'r grant i brynu pethau fel gwisg ysgol, cit chwaraeon, gwisg ar gyfer gweithgareddau cyfoethogi, bagiau ysgol, a deunydd ysgrifennu ar gyfer eich plentyn. Ni chewch ddefnyddio'r grant hwn i brynu offer TG. 

Gallech gael grant o £200 y plentyn os ydynt yn dechrau blwyddyn 7. 

Gallech dderbyn grant o £125 y plentyn os ydynt yn mynd i'r ysgol gynradd neu ym mlynyddoedd 8, 9, 10 neu 11. 

Gallech hefyd dderbyn y grant hwn os yw'ch plentyn rhwng 4 a 15 oed, a'i fod wedi cofrestru mewn:

  • ysgol arbennig,
  • canolfan adnoddau anghenion arbennig, neu
  • uned cyfeirio disgyblion.


Mae'r grant ar gael hefyd i bob plentyn oedran ysgol gorfodol sy'n derbyn gofal mewn ysgol Caerdydd.

Mae gan ddisgyblion heb fynediad at gyllid cyhoeddus a cheiswyr lloches sy'n dechrau mewn unrhyw flwyddyn ysgol gynradd, Blwyddyn 7 i Flwyddyn 11 ym mlwyddyn ysgol 2023 i 2024 hawl i grant.

Rhaid i chi fel y rhiant neu warcheidwad sy'n gwneud y cais fod yn derbyn un o'r canlynol:
 

  • Cymhorthdal Incwm,
  • Lwfans Ceisio Gwaith (Seiliedig ar Incwm),
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (yn seiliedig ar incwm),
  • Credyd Treth Plant, gydag incwm cartref o £16,190 neu lai,
  • Credyd Pensiwn (elfen gwarantiedig), neu
  • Gredyd Cynhwysol gydag enillion net aelwyd o lai na £7,400


Os ydych yn derbyn Credyd Treth Gwaith, ni fydd gennych hawl i'r grant.

Os ydych yn derbyn prydau ysgol am ddim oherwydd amddiffyn wrth bontio byddwch yn gymwys dim ond os ydych yn bodloni'r meini prawf.

Os ydych yn bodloni'r meini prawf hyn, cwblhewch y ffurflen gais am Grant Hanfodion Ysgol. Byddwn yn gwirio a ydych yn gymwys ar gyfer y tâl hwn gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau.

Gwneud cais am y Grant Hanfodion Ysgol

​​


​​ ​


Os oes angen help arnoch neu fod gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni:

Cysylltu â ni

Ffôn: 029 2087 1071​

​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd